Rhodd fel bo modd

Ydych chi’n prynu nwyddau ar-lein?

Mae Rhodd fel bo Modd yn ffordd wych o helpu i godi arian i’r Elusen.

Mae’n syml i’w ddefnyddio.

Rydych chi’n creu cyfrif – wedi dewis Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid fel eich elusen ddewisol a phob tro y byddwch chi’n siopa gan ddefnyddio’r ap mae swm bach o arian yn cael ei roi i ni.

Gallwch roi nodyn atgoffa i chwi eich hyn i fel nad ydych yn anghofio rhoi pan fyddwch yn gwario.

Cliciwch ar yr eicon isod i gael golwg ar sut mae’n gweithio a chofrestrwch heddiw i’n helpu ni, does dim cost ychwanegol i chi.

Beth mae Ein Cefnogwyr yn ei Ddweud

  • Pob lwc efo eich menter, ac fe edrychwn ymlaen i deithio efo chi!! Pob lwc i chi.

    Steve Thomas
  • Prosiect gret- mae hi mor bwysig I gyrraedd y dref ei hun.

    Martin (Nobby) Clark
  • Rheilffordd gyfeillgar iawn sydd a'i chalon yn y gymuned ehangach yn ogystal â'r gymuned leol. Ni all Julian, Liz, Rob ar holl bobl ddaru ni gwrdd fod yn fwy brwdfrydig a chroesawgar. Prosiect gwerth chweil.

    Jim, Kate, Cameron and Poppy
  • Yr ydwyf wedi bod yn meddwl gwneud ymroddiad ers gweld y Gala Winifred rhagorol mis Awst diwethaf, felly mae’r ddau ‘sleeper’ yma yn cynrychioli fy ôl-ddyled mewn cyfraniad misol! Mae hwn yn brosiect cyffroes iawn ac rydwyf yn 100% gefnogol ohonno!

    Daniel Cartwright
  • Prosiect cyffroes iawn fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned leol ac hefyd yn dod a hanes y diwydiant llechi a'i rheilffyrdd yng Nghymru yn fyw.

    Chrisi & Simon
  • Mae’n rhaid fod hwn yn un or prosiectau rheilffordd mwyaf pwysig ers ail adeiladu Rheilffordd Ucheldir Eyri. Rhaid i bawb ei gefnogi RWAN!