Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid i hybu addysg drwy ddysgu ac i hyrwyddo budd y cyhoedd drwy gadw ac adfer, cynnal a chadw ac arddangos locomotifau rheilffordd stêm ac arteffactau rheilffordd eraill, sefydlwyd cyfleusterau i’w ddiogelu a’i harddangos drwy ddarparu gwybodaeth ac addysg am hanes y locomotifau. Yn ogystal rydym yn arddangos arteffactau o reilffyrdd eraill sy’n gysylltiedig â diwydiant llechi Gogledd Cymru yn arbennig ardaloedd Dinorwic, Penrhyn ac ardaloedd o gwmpas tref Blaenau Ffestiniog.
.
Yn y cyd-destun hwn, mae Rheilffordd Llyn Tegid yn gweithio’n agos fel cwmni gweithredol, i gyflawni ein hamcanion elusennol.
Bydd digwyddiadau megis wythnos addysg, sydd yn rhan o’r gynllun Ymgyrch Caru Eich Rheilffordd, yn siŵr o ddod â gwen ac atgofion, ac yn ffordd wych o ddysgu i bob oed.
