Yr Adeiladu

Mae caniatâd cynllunio wedi’i gymeradwyo, yn amodol ar rai amodau yr ydym yn gweithio’n galed i’w cyflawni cyn gynted â phosibl. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwblhau gwaith uwchraddio gwerth £6.5M i amddiffynfeydd llifogydd y dref. Diolch i’w cefnogaeth a’u cydweithrediad gwych, roedd cynllun yr amddiffynfeydd llifogydd hynny yn golygu ei fod yn ymgorffori’r gwaith peirianneg sifil ychwanegol i wneud lle i’r rheilffordd. 

 

Rydym nawr yn dechrau ymgyrch i godi arian i brynu digon o drac i’w osod o’r orsaf bresennol i safle’r orsaf newydd. Yn ffodus, mae’r sylfaen ar gyfer yr ardal a ddangosir isod yn cwmpasu bron i draean o’r llwybr.

 

CEFNOGWCH EIN APÊL TRAC PRESENNOL
Os hoffech gyfrannu at ein hapêl trac presennol, cliciwch yma am fanylion


APÊL Y TRAC

Cyfrannodd yr Ymddiriedolaeth bron i £300,000 at y gwaith hwn diolch i gefnogaeth Croeso Cymru a haelioni eithriadol ein cefnogwyr. Mae cael y gefnogaeth hwn ac chael ran o’r gwaith wedi ei wneud yn barod yn arbed cannoedd o filoedd o bunnoedd i’r prosiect.

Beth mae Ein Cefnogwyr yn ei Ddweud

  • Pob lwc efo eich menter, ac fe edrychwn ymlaen i deithio efo chi!! Pob lwc i chi.

    Steve Thomas
  • Prosiect gret- mae hi mor bwysig I gyrraedd y dref ei hun.

    Martin (Nobby) Clark
  • Rheilffordd gyfeillgar iawn sydd a'i chalon yn y gymuned ehangach yn ogystal â'r gymuned leol. Ni all Julian, Liz, Rob ar holl bobl ddaru ni gwrdd fod yn fwy brwdfrydig a chroesawgar. Prosiect gwerth chweil.

    Jim, Kate, Cameron and Poppy
  • Yr ydwyf wedi bod yn meddwl gwneud ymroddiad ers gweld y Gala Winifred rhagorol mis Awst diwethaf, felly mae’r ddau ‘sleeper’ yma yn cynrychioli fy ôl-ddyled mewn cyfraniad misol! Mae hwn yn brosiect cyffroes iawn ac rydwyf yn 100% gefnogol ohonno!

    Daniel Cartwright
  • Prosiect cyffroes iawn fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned leol ac hefyd yn dod a hanes y diwydiant llechi a'i rheilffyrdd yng Nghymru yn fyw.

    Chrisi & Simon
  • Mae’n rhaid fod hwn yn un or prosiectau rheilffordd mwyaf pwysig ers ail adeiladu Rheilffordd Ucheldir Eyri. Rhaid i bawb ei gefnogi RWAN!