Cyllid Etifeddiaeth

Mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud cais i rhodd gael eu gwneud i gefnogi yr elusen ar ôl i chi farw.

Gallwch adael cymynrodd yn eich ewyllys

Mae rhoddion elusennol yn ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl wrth ysgrifennu ewyllys. Mewn ambell sefyllfaoedd gallwch hawlio rhyddhad treth ar roddion elusennol.

Beth bynnag fo’ch cymhellion, gallai cyfrannu at elusen fod yn ymdrech werth chweil wrth i chi gynllunio eich etifeddiaeth.

Mae eich ewyllys yn gyfle i ddatgan beth ddylai ddigwydd i’ch arian, eiddo a eiddo personnol, ond hefyd i nodi unrhyw roddion elusennol. Gallwch ysgrifennu ewyllys eich hun, neu ddefnyddio gweithiwr cyfreithiol proffesiynol – falle y bydd yr olaf yn haws os yw eich ystâd yn gymhleth ac rydym yn awgrymu eich bod yn cael cyngor proffesiynol.

Wrth adael rhodd yn eich ewyllys i elusen, gallwch ddatgan a hoffech roi swm penodol, eitem benodol, neu ba bynnag swm o arian sy’n weddill unwaith y bydd y rhoddion eraill wedi’u dosbarthu. Er mwyn bod yn gyfreithiol ddilys, mae angen i’ch ewyllys gael ei thystio’n ffurfiol a’i llofnodi.

Gadewch lythyr o ddymuniadau gyda’ch papurau personol.

Gallech hefyd ysgrifennu llythyr o ddymuniadau fel bod y rhai sy’n rheoli eich Ystad yn gwybod beth fyddech chi’n ei ddymuno.

Rhoddion er cof

Gall hyn fod mor syml â gofyn i roddion a roddir er cof i chi gael eu rhoi i’r elusen. Cysylltwch â ni os ydych am i ni gynorthwyo i ddarparu tudalen rhoddion.

Beth mae Ein Cefnogwyr yn ei Ddweud

  • Pob lwc efo eich menter, ac fe edrychwn ymlaen i deithio efo chi!! Pob lwc i chi.

    Steve Thomas
  • Prosiect gret- mae hi mor bwysig I gyrraedd y dref ei hun.

    Martin (Nobby) Clark
  • Rheilffordd gyfeillgar iawn sydd a'i chalon yn y gymuned ehangach yn ogystal â'r gymuned leol. Ni all Julian, Liz, Rob ar holl bobl ddaru ni gwrdd fod yn fwy brwdfrydig a chroesawgar. Prosiect gwerth chweil.

    Jim, Kate, Cameron and Poppy
  • Yr ydwyf wedi bod yn meddwl gwneud ymroddiad ers gweld y Gala Winifred rhagorol mis Awst diwethaf, felly mae’r ddau ‘sleeper’ yma yn cynrychioli fy ôl-ddyled mewn cyfraniad misol! Mae hwn yn brosiect cyffroes iawn ac rydwyf yn 100% gefnogol ohonno!

    Daniel Cartwright
  • Prosiect cyffroes iawn fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned leol ac hefyd yn dod a hanes y diwydiant llechi a'i rheilffyrdd yng Nghymru yn fyw.

    Chrisi & Simon
  • Mae’n rhaid fod hwn yn un or prosiectau rheilffordd mwyaf pwysig ers ail adeiladu Rheilffordd Ucheldir Eyri. Rhaid i bawb ei gefnogi RWAN!