Mae Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhoi caniatâd cynllunio i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid o’i therfynfa anghysbell bresennol ym Mhen y Bont, i leoliad newydd ychydig oddi ar y Stryd Fawr yng nghanol y dref.
Ar ôl dros ddeng mlynedd o waith dyfaliadol i ymestyn y rheilffordd, heddiw, 4ydd Medi 2024, daeth y freuddwyd yn fyw i ni allu adeiladu’r rheilffordd i’r Bala. Ar ôl goresgyn eu siom o gael eu gwrthod y llynedd mae’r tîm, staff a gwirfoddolwyr yn mwynhau perarogl llwyddiant heddiw, wrth gyflawni y cam enfawr ymlaen a gallu gwireddu ei uchelgais.
Er bod y caniatâd yn cynnwys llu o amodau y bydd rhaid i ni eu bodloni cyn i’r gwaith ddechrau, mae’n gyffrous gwybod bod hyn yn bendant yn mynd i ddigwydd erbyn hyn.
Dywedodd cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid, Julian Birley, “Mae hwn yn ddiwrnod cyffrous iawn yma yng Nghymru a hoffem fynegi ein diolch diffuant i bawb sydd wedi ein cefnogi yn ariannol ac yn foesol, mewn rhywbeth a oedd tan rwan yn gwbl ddyfaliadol. Eich cred a eich cefnogaeth sydd wedi cadw ni a’r cynlluniau i fynd, heb eich help chwi, parhau i fod yn freuddwyd fyddai y prosiect, wnawn ni fyth anghofio hyna”.
4 Medi 2024