Diolch i haelioni anhygoel ein cefnogwyr rydym wedi archwilio i bob manylyn bach er mwyn bodloni’r pwyllgor cynllunio.
Bydd yn cymryd tua wythnos i Barc Cenedlaethol Eryri gofrestru’r cais ar eu porthol, yna byddwn ni yn cyhoeddi’r ddolen lle y byddwn yn gofyn i bobl ysgrifennu i mewn a dangos eu cefnogaeth.
Gobeithiwn gael penderfyniad erbyn dechrau’r haf.