Mae’r Bala wedi derbyn hwb economaidd sylweddol yn dilyn cymeradwyo grant o £850,000 drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, tuag at weithredu’r wedd gyntaf o ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid i ganol y dref.
Bydd y prosiect yn ymestyn y rheilffordd o’i therfyn presennol ym Mhen-y bont, sydd yn ddiwedd y lein ers dros 50 mlynedd, i safle gorsaf newydd yng nghanol y dref. Bydd cyflawni gwedd gyntaf y prosiect yn garreg filltir pwysig i gyflawni cynllun hirdymor i ddatblygu atyniad treftadaeth poblogaidd yn ne’r sir, fydd hefyd yn cyfrannu tuag at gryfhau’r economi leol.
Mae’r cynllun hefyd yn rhan bwysig o’r weledigaeth a’r amcanion o fewn Cynllun Creu Lle Y Bala. Drwy ddod â Rheilffordd Llyn Tegid yn uniongyrchol i ganol y dref, bydd yr estyniad yn helpu i gryfhau’r cysylltiad rhwng yr atyniad twristiaeth, y stryd fawr a busnesau lleol, ynghyd a cefnogi’r nod o greu canol tref bywiog, cynaliadwy a deniadol i drigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Disgwylir i’r prosiect hefyd gynyddu’r amser y mae ymwelwyr yn ei dreulio yn y dref a’r ardal, gan gefnogi busnesau presennol a helpu i greu cyfleodd cyflogaeth yn yr economi leol.
Dywedodd Siân Gwenllian, Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio:
“Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cam cyntaf cyffrous prosiect y Rheilffordd Llyn Tegid drwy ein Rhaglen Trawsnewid Trefi.
“Bydd ymestyn y rheilffordd i galon y dref yn creu cyswllt hanfodol rhwng yr atyniad treftadaeth boblogaidd hwn a Stryd Fawr y Bala, gan ddenu mwy o ymwelwyr i ganol y dref a rhoi hwb gwerthfawr i fusnesau lleol.
“Mae’n wych gweld cefnogaeth mor gryf i’r cynllun hwn gan drigolion, busnesau a chynghorau lleol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y prosiect pwysig hwn yn symud yn ei flaen.”
Dywedodd y Cynghorydd R. Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn newyddion cadarnhaol iawn i gynllun Rheilffordd Llyn Tegid ac i ganol tref y Bala. Bydd ymestyn y rheilffordd nes i ganol y dref yn ychwanegu at gyfleusterau presennol y cwmni, gan gyfrannu at fywiogrwydd economaidd y dref.
Dywedodd Julian Birley, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid;
“Mae wedi cymeryd deuddeg mlynedd o waith caled a dyfalbarhad i gyrraedd y pwynt hwn. Diolch i haelioni lleol ac o phob cwr o’r byd rydym wedi codi £1.8m hyd yma. Mae hyn wedi ein galluogi i sicrhau’r holl gymeradwyaethau a chaniatadau angenrheidiol, prynu tir a chwblhau’r gwaith dylunio manwl.
Bydd y cyllid newydd a gyhoeddwyd heddiw yn ein galluogi i wneud dechrau sylweddol ar y gwaith ar lawr gwlad, ac rydym mewn sefyllfa i ddechrau ar y gwaith ar unwaith. Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i’r prosiect hwn. Mae’n arbennig o galonogol gweld prosiectau mawr yng Ngogledd Cymru yn erbyn y gefnogaeth sydd ei angen i sicrhau manteision hirdymor i gymunedau lleol.”
Mae rheilffyrdd treftadaeth yn gallu gwneud cyfraniad pwysig i economi leol, drwy ddenu ymwelwyr i gefnogi busnesau yn cynnwys siopau, bwytai a’r sector lletygarwch.
Unwaith bydd y cynllun wedi ei gwblhau yn ei gyfanrwydd, y nod yw helpu i sefydlu’r Bala fel cyrchfan ynddo’ i hun, yn hytrach na thref y mae ymwelwyr yn teithio drwyddi ar eu ffordd i rywle arall. Bydd ymwelwyr yn gallu gadael eu ceir a theithio ar y trên drwy dirwedd Parc Cenedlaethol Eryri.
Ychwanegodd Julian Birley:
“Bwriad y rheilffordd estynedig yw gwell ansawdd a a profiad sydd ar gael drigolion a ymwelwyr i’r Bala ynghyd a chyfrannu tuag at economi’r dref
Ar ôl ei gwblhau, bydd y rheilffordd yn gweithredu fel atyniad cynaliadwy y gall trigolion ac ymwelwyr ei fwynhau am genedlaethau i ddod”.