Cabinet Cyngor Sir Gwynedd â’r Bala

Ymwelodd Cabinet Cyngor Sir Gwynedd â’r Bala ddoe i archwilio ac asesu cynnydd estyniad Rheilffordd Llyn y Bala. Bhu iddynt gyfarfod â Julian Birley, cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn y Bala a gerddodd y llwybr arfaethedig a chyflwyno iddyn nhw, yn uniongyrchol, bwysigrwydd y prosiect hwn i adfywio’r dref ei hun yn y dyfodol.

 

Dywedodd Julian “Roeddwn i’n ddiolchgar iawn am yr amser a’r diddordeb a ddangosodd y cabinet yn y prosiect. Cefais yr argraff eu bod nhw’n gwerthfawrogi y bydd hwn yn fuddsoddiad cyfalaf cymharol gymedrol yn y dref a fydd yn cael ei ad-dalu gan wariant ychwanegol i fusnesau lleol o fewn cyfnod byr iawn. Roeddwn i hefyd yn falch iawn bod ein AC Mabon ap Gwynfor wedi ymuno â ni i ddangos ei gefnogaeth barhaus”.

O’r Chwith i’r Dde

Dilwyn Morgan; Julian Birley BLRT; Mabon ap Gwynfor AM; Craig ab lago; Menna Trenholme; Nia Jeffreys; Paul John Rowlinson; Llio Elenid Owen; R Medwyn Hughes; Dewi Jones; June Jones

Beth mae Ein Cefnogwyr yn ei Ddweud

  • Pob lwc efo eich menter, ac fe edrychwn ymlaen i deithio efo chi!! Pob lwc i chi.

    Steve Thomas
  • Prosiect gret- mae hi mor bwysig I gyrraedd y dref ei hun.

    Martin (Nobby) Clark
  • Rheilffordd gyfeillgar iawn sydd a'i chalon yn y gymuned ehangach yn ogystal â'r gymuned leol. Ni all Julian, Liz, Rob ar holl bobl ddaru ni gwrdd fod yn fwy brwdfrydig a chroesawgar. Prosiect gwerth chweil.

    Jim, Kate, Cameron and Poppy
  • Yr ydwyf wedi bod yn meddwl gwneud ymroddiad ers gweld y Gala Winifred rhagorol mis Awst diwethaf, felly mae’r ddau ‘sleeper’ yma yn cynrychioli fy ôl-ddyled mewn cyfraniad misol! Mae hwn yn brosiect cyffroes iawn ac rydwyf yn 100% gefnogol ohonno!

    Daniel Cartwright
  • Prosiect cyffroes iawn fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned leol ac hefyd yn dod a hanes y diwydiant llechi a'i rheilffyrdd yng Nghymru yn fyw.

    Chrisi & Simon
  • Mae’n rhaid fod hwn yn un or prosiectau rheilffordd mwyaf pwysig ers ail adeiladu Rheilffordd Ucheldir Eyri. Rhaid i bawb ei gefnogi RWAN!