Nodyn gan Julian Birley, Cadeirydd ac Ymddiriedolwr.
Mae 12 mis bellach wedi mynd ers i’r caniatâd cynllunio gael ei roi ar gyfer ymestyn y rheilffordd 1200m o’r derfynfa anghysbell ym Mhen Y Bont i’r safle newydd ychydig oddi ar y stryd fawr.
Gofynnwyd i ni sawl gwaith pryd y bydd y gwaith yn dechrau o ddifri. Does neb yn fwy awyddus i ddechrau nag yr ydym ni.
Gyda’r caniatâd cynllunio daeth dros ugain o amodau gwahanol y bu’n rhaid eu cyflawni cyn y gall y gwaith ddechrau.
Mae hyn wedi golygu gwaith ychwanegol helaeth sydd wedi achosi costau ychwanegol sylweddol.
Mae’r costau wedi’u talu gan haelioni parhaus anhygoel ein cefnogwyr ac mae’r amser yn agosáu’n gyflym pryd y cawn y golau gwyrdd i allu dechrau.
I roi cipolwg ar y cymhlethdodau enfawr sy’n gysylltiedig ag adeiladu estyniad rheilffordd mor fach, efallai y byddai o ddiddordeb gweld beth yw’r gofynion hyn mewn gwirionedd a gallwch gael mynediad at y manylion yr ydym yn gweithio arnynt.
Diolch am eich cefnogaeth, mae’r rhan anodd iawn bron drosodd, parhewch i gefnogi; mae’r rhan braf a hwyliog ar fin dechrau.
Cyfrannu