Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweithio gyda sefydliad sy’n deall ein hamcanion strategol ac sydd eisiau eu cefnogi. Ein diolch i Luke Peaker, Uwch Gynllunydd Trafnidiaeth a’i dîm yn Arup Lerpwl, sydd wedi bod yn allweddol wrth gynhyrchu ein prosbectws sy’n nodi’n glir fanteision economaidd y prosiect a ffyrdd y byddwn yn cydweithio i’r cynllun dwyn ffrwyth.
Er mwyn cyflawni nod ein prosiect mae angen i ni sicrhau cyllid o £4.5m.
Mae ein partneriaeth ag Arup yn dangos sut y gall sefydliadau gymryd rhan gan ddarparu gwasanaethau ac arbenigedd i’n cefnogi a gobeithiwn y bydd eraill yn dilyn eu hesiampl.
Ein diolch hefyd i’n gwirfoddolwr Esyllt Jones am y cyfieithiad Cymraeg.
“Rydym wedi bod wrth ein bodd yn cynorthwyo i gynhyrchu’r prosbectws ar gyfer Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid. Mae hwn yn brosiect cyffrous a gwirioneddol drawsnewidiol a fydd yn cadw treftadaeth leol wrth ddod â manteision economaidd hirdymor i’r rhanbarth.” Luke Peaker, Arup.
Gellir gweld a lawrlwytho copïau o’r prosbectws o fan hyn
