Rydym bellach yng nghyfnodau olaf o gyfarfodydd caniatâd cynllunio, gyda’r cytundeb cyntaf wedi’i gytuno ar gyfer dylunio manyleb yr arglawdd—o’r amddiffynfeydd rhag llifogydd i’r ffordd at yr orsaf. Mae hyn yn nodi carreg filltir arwyddocaol, gan ei fod yn paratoi’r ffordd i’r gwaith adeiladu ddechrau’n fuan.
Bydd y cam cychwynnol yn gweld yr arglawdd yn cael ei adeiladu, ac yna’n fuan iawn wedyn bydd trac yn cael ei osod ar yr arglawdd newydd, ochr yn ochr â’r amddiffynfeydd rhag llifogydd, lle mae’r holl waith peirianneg sifil bellach wedi’i gwblhau diolch i’ch cefnogaeth. Ar 9fed o Chwefror, defnyddiwyd peiriannau tir ar y caeau rygbi a thir fferm cyfagos i gasglu samplau pridd, a fydd yn llywio dyluniad terfynol yr arglawdd.
Hoffem fynegi ein diolch o galon i bob cefnogwr a rhoddwr—mae eich haelioni eisoes wedi cael effaith amlwg, gan ein tynnu yn agosach at fedru ddchrau y gwaith adeiladu. Mae pob cyfraniad wedi ein helpu i oresgyn rhwystrau allweddol a chyrraedd y pwynt hollbwysig hwn.
Rydym ar y trywydd iawn i godi’r arian ar gyfer prynu’r trac, y slipers a’r gosodiadau sy’n hanfodol ar gyfer y camau nesaf, ond mae angen i ni gyrraedd ein targed o £100,000 o hyd. Bydd eich cefnogaeth barhaus yn ariannu’r deunyddiau ar gyfer adeiladu’r trac yn uniongyrchol ac yn ein helpu i dorri tir newydd ar gyfer yr orsaf ei hun. Drwy gyrraedd ein nod, rydym yn sicrhau nid yn unig y seilwaith ffisegol ond hefyd dyfodol estyniad y rheilffordd, gan ddod â budd parhaol i’r gymuned. Daliwch ati i’n cefnogi—gyda’n gilydd, rydym yn troi cynlluniau’n realiti.