Carreg filltir gyffrous i’r prosiect

Ar ddydd Llun 11 Mai, cawsom ein sliper pren caled cyntaf — y deunyddiau ffisegol cyntaf ar gyfer yr estyniad i’r dref. Mae’n hynod gyffrous gweld rhywbeth mor amlwg yn cyrraedd a gwybod ei fod yn nodi cynnydd gwirioneddol tuag at y diwrnod y bydd trenau’n dychwelyd i’r Bala.

 

Ni fyddai’r foment hon wedi bod yn bosib heb gefnogaeth hael ein cyfrannwyr a’n cefnogwyr, a hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Os hoffech barhau i gefnogi’r prosiect a helpu i symud y cynllun ymlaen, gellir wneud cyfraniad trwy ein gwefan. 

Beth mae Ein Cefnogwyr yn ei Ddweud

  • Pob lwc efo eich menter, ac fe edrychwn ymlaen i deithio efo chi!! Pob lwc i chi.

    Steve Thomas
  • Prosiect gret- mae hi mor bwysig I gyrraedd y dref ei hun.

    Martin (Nobby) Clark
  • Rheilffordd gyfeillgar iawn sydd a'i chalon yn y gymuned ehangach yn ogystal â'r gymuned leol. Ni all Julian, Liz, Rob ar holl bobl ddaru ni gwrdd fod yn fwy brwdfrydig a chroesawgar. Prosiect gwerth chweil.

    Jim, Kate, Cameron and Poppy
  • Yr ydwyf wedi bod yn meddwl gwneud ymroddiad ers gweld y Gala Winifred rhagorol mis Awst diwethaf, felly mae’r ddau ‘sleeper’ yma yn cynrychioli fy ôl-ddyled mewn cyfraniad misol! Mae hwn yn brosiect cyffroes iawn ac rydwyf yn 100% gefnogol ohonno!

    Daniel Cartwright
  • Prosiect cyffroes iawn fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned leol ac hefyd yn dod a hanes y diwydiant llechi a'i rheilffyrdd yng Nghymru yn fyw.

    Chrisi & Simon
  • Mae’n rhaid fod hwn yn un or prosiectau rheilffordd mwyaf pwysig ers ail adeiladu Rheilffordd Ucheldir Eyri. Rhaid i bawb ei gefnogi RWAN!