Datganiad i’r wasg RhLlT16 Tachwedd 2023

Mae’r Nadolig wedi dod yn gynnar i Reilffordd Llyn Tegid.

Mae’r rheilffordd wedi derbyn pedwar cerbydau tebyg i Lynton & Barnstaple drwy garedigrwydd Rheilffordd Statfold Barn.

Adeiladwyd y cerbydau yn wreiddiol gan Alan Keef a’u caffael gan Barc Gwledig Statfold Barn ar Reilffordd Lynton a Barnstaple yn Woody Bay.

Bellach maent wedi ei rhoi i Reilffordd Llyn Tegid, maent yn cynnwys:

Rhif 1 – Brêc, 3ydd dosbarth gydag ardal i warchodwr
Rhif 2 – Pob un yn 3ydd dosbarth
Rhif 3 – Brec Cyfansawdd gydag dosbarth 1af
Rhif 4 – Pob un yn 3ydd dosbarth

Mae’r rheilffordd yn hynod ddiolchgar am yr cyfranniad anhygoel ac yn edrych ymlaen yn fawr at ei gweld yn tynnu un o’m pum “Quarry Hunslets” y tymor nesaf.

Dywedodd Julian Birley, cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llyn Tegid:

“Mae hwn yn hwb enfawr i’r rheilffordd a hefyd ein chynlluniau ar gyfer ymestyn y cledrau i dref y Bala yn y dyfodol”

Mae hyn bellach yn rhoi tair gwyredd o bedair coets i’r rheilffordd, gan roi mwy o le i ddiddanu’r nifer cynyddol o deithwyr a ddisgwylir pan gyrhaeddir canol y dref.

Gyda’r trafodaethau hirfaith gyda Parc Cenedlaethol Eryri yn dal ar y gweill a peth amser eto cyn y gallwn cyflwyno y cais am ganiatâd, mae’n wych gweld rhywbeth sy’n gysylltiedig mewn gwirionedd â rheilffyrdd yn dod i’r amlwg yn hytrach na gorfod delio â phynciau mor gyffredin megis gwaith trin carthion a gollyngiadau ffosffad i mewn i’r afon.

Rydym yn ddyledus i Graham Lee yn Statfold ac yn edrych ymlaen at ei weld yn ei gyrru ar ein rheilffordd”.

Beth mae Ein Cefnogwyr yn ei Ddweud

  • Pob lwc efo eich menter, ac fe edrychwn ymlaen i deithio efo chi!! Pob lwc i chi.

    Steve Thomas
  • Prosiect gret- mae hi mor bwysig I gyrraedd y dref ei hun.

    Martin (Nobby) Clark
  • Rheilffordd gyfeillgar iawn sydd a'i chalon yn y gymuned ehangach yn ogystal â'r gymuned leol. Ni all Julian, Liz, Rob ar holl bobl ddaru ni gwrdd fod yn fwy brwdfrydig a chroesawgar. Prosiect gwerth chweil.

    Jim, Kate, Cameron and Poppy
  • Yr ydwyf wedi bod yn meddwl gwneud ymroddiad ers gweld y Gala Winifred rhagorol mis Awst diwethaf, felly mae’r ddau ‘sleeper’ yma yn cynrychioli fy ôl-ddyled mewn cyfraniad misol! Mae hwn yn brosiect cyffroes iawn ac rydwyf yn 100% gefnogol ohonno!

    Daniel Cartwright
  • Prosiect cyffroes iawn fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r gymuned leol ac hefyd yn dod a hanes y diwydiant llechi a'i rheilffyrdd yng Nghymru yn fyw.

    Chrisi & Simon
  • Mae’n rhaid fod hwn yn un or prosiectau rheilffordd mwyaf pwysig ers ail adeiladu Rheilffordd Ucheldir Eyri. Rhaid i bawb ei gefnogi RWAN!