Mae’r rhwystr mwyaf wrth sicrhau ein caniatâd cynllunio wedi’i ddatrys.
Pan gafodd y cais cynllunio yn mis Ebrill 2023 ei wrthod ar gyfer ymestun y rheilffordd, y prif bryder a godwyd oedd y posibilrwydd o gynnydd mewn ymwelwyr i’r Bala a fyddai’n gorlwytho Gwaith Trin Dŵr y Bala gan arwain at gynnydd yn y ffosffadau sy’n cael eu gollwng i’r afon. Dyfrdwy.
Ym mis Gorffennaf, rhoddwyd trwydded ffosffad i Waith Trin y Bala a oedd yn pennu’r terfyn ffosffad a ganiateir ar gyfer y dref. Mae Dŵr Cymru/Welsh Water wedi cadarnhau’n ddiweddar y bydd y cynllun AMP (Cynllun Rheoli Asedau), sydd i’w gwblhau erbyn 2025, yn darparu gofod ar gyfer y llwyth ffosffad ychwanegol o’n datblygiad arfaethedig a bydd yn dal i gwrdd â’r lefel derbynniol.
Er bod rhesymau eraill wedi ei nodi dros wrthod, rydym yn gweithio tuag at datrys y rhain ac yn hyderus y gallwn ddarparu’r wybodaeth berthnasol i fodloni’r pwyllgor cynllunio.
For further information contact Julian Birley